Ymgynghoriad yn fyw
Dewch i'n gweld
Rydym am glywed barn y rhai sy’n byw ac yn gweithio ger Parc Solar arfaethedig Penllergaer. Rydyn ni wedi trefnu dau ddigwyddiad galw heibio i bobl gael rhagor o wybodaeth, cwrdd â thîm y prosiect a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw:
Digwyddiad 1
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
10am – 3pm
Neuadd Bentref Pontlliw, SA4 9EX
Digwyddiad 2
Dydd Mercher 22 Ionawr 2025
2pm – 7pm
Neuadd Les Felindre, SA5 7NA
Dogfennaeth y prosiect
Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi trosolwg o'r prosiect a'r wybodaeth allweddol.
Ymgynghoriad
Bellach rydyn ni'n ymgynghori â’r gymuned ar ein cais cynllunio drafft a’n cynnig buddsoddiad cymunedol.
Cynhelir ein hymgynghoriad cyhoeddus rhwng dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024 a dydd Mercher 5 Chwefror 2025.
Bydd yr ymgynghoriad statudol hwn yn rhoi’r cyfle i chi archwilio ein cynigion diweddaraf a darparu eich sylwadau / ymatebion i ni eu hystyried cyn i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) gael ei gwblhau a’i gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru.
Mae holl fanylion yr ymgynghoriad ar gael yn ein cylchlythyr
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yn ein hadran dogfennaeth y prosiect
Adborth
Rydym yn eich gwahodd i roi adborth ar ein cynigion drafft hefyd trwy ein ffurflen ar-lein.
Rhowch adborth i ni trwy lenwi'r ffurflen adborth hon erbyn dydd Mercher 5 Chwefror 2025.
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn ni'n paratoi adroddiad ymgynghori yn arddangos sut rydyn ni wedi adolygu ac ymateb i’r holl adborth a dderbyniwyd. Bydd yr adroddiad hwn yn cyd-fynd â’r cais cynllunio a gyflwynir i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w ystyried
Dim ond at ddiben y cais cynllunio y bydd unrhyw adborth a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio a'i anfon ymlaen at Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ac ni chaiff ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu hanfon ymlaen yn gyfrinachol i PEDW fel y gallwch gael gwybod am eu hymgynghoriad ar y cais ac ni fyddant yn cael eu rhestru yn nogfennaeth y cais cynllunio.
E-bost - E-bostiwch eich sylwadau atom i enquiries@penllergaersolar.com.
Ysgrifennu at: Rhadbost GRASSHOPPER CONSULT (does dim angen stamp na chyfeiriad ychwanegol)
Ffonio – Rydyn ni yma i wrando ar eich barn. Gallwch siarad ag aelod o'r tîm drwy ffonio 01792 001553.
Cysylltu â ni – Rhowch eich manylion cyswllt os hoffech chi gael diweddariad am y prosiect.
I ddeall beth rydym yn ei wneud gyda’ch data, darllenwch ein datganiad GDPR yma
Cyflwynwch adborth ar y cynigion cyn dydd Mercher 5 Chwefror 2025.